Ymateb  Richard Lloyd Jones ("Elidir") i  arddangosfa

‘Mordaith’  Pete Jones,  Oriel Môn, Llangefni, 2019.

 

C    CLYMAU

 

      Erwau o lwyd oedd f’oriel i, - yna

      tywynnodd goleuni

      oriel artist tosturi

      o weld ôl dy ddwylo di. 

 

      Rhoir lluniau’r  mur allanol – yno’n dwt,

      yn datod d’orffennol.

      O deulu cu, gwres eu côl,

      o fro Hirael forwrol.

      

      Llanw … trai yw lluniau tref – o nabod

      ei phobol, a’u goslef.

      Y Farrar lu, ffri ei lef,

      dwy wedd, eu llwydd a’r dioddef.

 

      Un yw Hirael â’r chwarel, - yno’r cei,

      hwylia’r cwch i’w orwel.

      Llechi gwyd gastell uchel;

      arglwyddiaeth meistri’r caeth cêl.

 

      Mae erlid mewn sawl murlun – a  gwelaist

      hen gwlwm, gweld Celyn;

      gwendid iaith, o’i gwasgu’n dynn

      i weld ofn, fesul  defnyn.

                       

      Llawr oer gweddill yr oriel, – man y gwan

      ‘gwahanol’, man tawel;

      man datglwm y cwlwm cêl,

      daw ergyd o’r man dirgel.

 

      O’th ddoe pell, i gell ein gwadd,

      rhain yw ‘naw’ Bryn - y -Neuadd*;

      atynt dychwelaist  eto

      ar daith y gwaith, hwy dy go’.

      Yn fyfyrgar caf f’arwain

      hyd res portreadau’r  rhain.

     Sŵn eu cof oedd drysau’n cau,

     naw meudwy dan amodau;

     yno naw i’m denu’n nes,

     yn yr wyneb mae’r hanes.

 

     Edrychaf ar glaf yn glir

     yn ei waeledd nas gwelir.

     Un o’r naw, gwallt yn prinhau -

     pa nam? oes nam? oes amau?

     Bodlon, fel bardd coronog

     yno’n glyd heb rwysg y glog;

     nid gwefr, ni wêl ddillad gwyn

     na’r Ŵyl o’i gadair olwyn.

     Ei lun yn d’oriel hanes

     yn ei breim mewn  bib a brace;

     yn galed, gwlwm-gwlwm

     hybu llid mae’r wyneb llwm.

     Rhewir ynof yr ennyd ,

     uno’r bardd â gwewyr byd.

 

     Yn gwenu, llun gwahanol,

     troi’r cloc i oes roc a rôl;

     ac un o dras ‘hogyn drwg’,

     â’i wên gymhleth, rôg amlwg.

     Rhyw hyder llawn direidi -

     yn gês, main, agos i mi.

 

     Yma, merch â amharchwyd,

     ai nam un nos? Ai cam nwyd?

     I gadw’r ffydd  rhaid cuddio

     mam a’i ‘brad’ rhag siom ei bro.

     Yn y llun a glywn ei llef

     a hurtrwydd  rhoi mewn ‘cartref’?

     Yma craith, a chwlwm crog

     i’w thewi gan frath euog;

     plentyn yn fam - ai camwedd?

     hir y boen nes torri bedd.

 

      Un arall; sefyll allan – geiriau llwm

      grea llun Joe Bevan.

      Agwedd, baich, ‘sgwyddau bychan –

      ffromi mae o fewn ffram mân.

 

     Eto, cynigodd ateb, – ôl ei droed

     wêl y dre’, creu undeb.

     Â’i glebar yn ddihareb

     torri wnaeth y farn ‘tir neb’.

 

     Aelwyd i’r un di-deulu –a fu’r dref,

     ar dro bu’n cymysgu,

     a daeth pan g’add ei gladdu

      i’r llan gynulleidfa’n llu.

  

      Ddoe y dyn drwy’i ddyddiau du – a welaist

      a’th olew yn taenu

      eu staen i ni gwestiynu.

 

      Oes allwedd, wedi’r syllu,

      â dawdd faich eu dyddiau fu?

      Caed parch gydol y gwarchod-

      a allai’r nawdd wella’r nod?

      Eithrio poen â therapi

      rhyw les ar ffurf arloesi.

      Rhan addfwyn fu i’r noddfa.

      yn eu dydd bu’n arfer da;

      hen ffyrdd - ai llesol, neu ffug?

      oes o waith, eto’n seuthig?

 

      Yn llinell a lliw’r lluniau, - i ni her

      yw synhwyro clymau;

     ni welir yn y golau

     ing oes dan y paent yng nghau.

 

                                            ELIDIR

 

   

Print Print | Sitemap
All images, words and music copyright Pete jones unless stated.